A ydych yn ofalwr?

Os ydych yn gofalu am berthynas, ffrind neu gymydog yn rheolaidd, na allai ymdopi heb eich help, pa un a ydych yn cael eich talu ai peidio, yna rydych yn ofalwr!

A chithau'n ofalwr, mae'n bwysig eich bod yn gofalu am eich iechyd eich hun hefyd.

Mae'r cwrs y cynnwys:

  • Gofalu am eich iechyd
  • Cydbwyso eich rôl ofalu
  • Technegau ymlacio
  • Rheoli diwrnodau digalon
  • A llawer mwy

Mae hwn yn gwrs RHAD AC AM DDIM gan y GIG, ac mae'n para tair awr. Mae ar gael ar gyfer unrhyw un sydd dros 18 oed ac yn gofalu am rywun sydd a chyflwr iechyd tymor hir.

I gael rhagor o wybodaeth ac archebu lle, cysylltwch â'r Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP) ar:

01554 899035 neu [email protected]